Fe gewch fynediad am ddim at ein cyfres o sgiliau arbenigol ar gyfer recriwtio graddedigion dawnus a all ateb y galw am ddadansoddwyr, gwyddonwyr data, ac unigolion a chanddynt gefndir mewn busnes, Technoleg Gwybodaeth, mathemateg, ac economeg.
Nod Cynllun Graddedigion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yw cynyddu cynhyrchiant, arloesedd a thwf economaidd drwy gysylltu graddedigion dawnus â busnesau uchelgeisiol yn y deg awdurdod lleol o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’r Cynllun Graddedigion yn cynnig y gwasanaethau AM DDIM canlynol i fusnesau:
*cyfweliad i’w gynnal gan y cyflogwr.
Mae ein hymagwedd tuag at y broses recriwtio yn hyblyg, yn addasadwy ac mae wedi’i llunio’n hollol bwrpasol ar gyfer anghenion eich busnes. Rydym yn darparu cyngor arbenigol ac yn ystyried pa bryd yr hoffech recriwtio, pa fath o berson graddedig rydych yn chwilio amdano/amdani, hyd y rôl, sut yr hoffech lunio’r broses asesu a’ch rhan chithau ynddi.
Rydym yn gweithio’n galed i ddeall diwylliant eich busnes a’ch dynameg o ran gweithredu fel ein bod yn gallu sicrhau ein bod yn cynnig ymgeiswyr fydd yn addas yn ddiwylliannol. Mae gan bersonoliaeth a meddylfryd werth sy’n gydradd â sgiliau ac arbenigedd technegol. Gallwn ganfod yr ymgeisydd cywir ichi gyda’r rhinweddau a’r gwerthoedd addas rydych chi’n chwilio amdanynt.
Rydym yn cynnig cyfleoedd marchnata a chysylltiadau cyhoeddus (tystebau, astudiaethau achos ar y wefan, erthyglau nodwedd ynglŷn â diwydiant ac erthyglau nodwedd graddedigion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd) i godi proffil eich busnes ac ymwybyddiaeth ohono o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Caiff ein cynllun gefnogaeth lawn ein timau Datblygu Economaidd a Rhanbarthol o fewn y 10 awdurdod lleol a sefydliadau allweddol sy’n rhoi cymorth i fusnesau (Busnes Cymru, Siambr Fasnach De Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach, Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd), sy’n golygu y gallwn fanteisio hyd yr eithaf ar y cymorth rydym yn ei ddarparu i chi a sicrhau sylw ychwanegol i’ch cyfleoedd.
Rydym wedi partneru’n swyddogol â’r pedair prifysgol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd (Prifysgol De Cymru / Prifysgol Metropolitan Caerdydd / Prifysgol Caerdydd / Y Brifysgol Agored yng Nghymru) sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo’r cynllun ac sy’n rhoi mynediad dihafal inni at eu graddedigion o ansawdd uchel.
Nid dim ond ar gyfer graddedigion y mae datblygiad personol a phroffesiynol. Rydym yn gweithio â Global Welsh i baru busnesau sy’n tyfu ac sydd â dyheadau â mentoriaid profiadol ledled y byd sydd eisiau darparu’u harbenigedd a’u cynghorion i helpu busnesau i dyfu/lwyddo. Byddwn yn rhoi’r cyfleuster “MyMentor” hwn ar gael AM DDIM am 12 mis i bob busnes sy’n penodi person graddedig.
Cysylltwch, os gwelwch yn dda, â laura.carter@cardiff.gov.uk / geraldine.osullivan@cardiff.gov.uk neu cwblhewch y ffurflen isod: