Upgrade to ChromeUpgrade to FirefoxUpgrade to Internet ExplorerUpgrade to Safari

Canfyddwch ddoniau gorau diwydiant gyda’n cynllun am ddim i recriwtio graddedigion.

Fe gewch fynediad am ddim at ein cyfres o sgiliau arbenigol ar gyfer recriwtio graddedigion medrus iawn sydd â phrofiad o labordy, yn ogystal â sgiliau ledled yr ystod lawn o ofynion sefydliadol.

Helpu cwmnïau ym meysydd gwyddorau bywyd, diagnosteg a dyfeisiadau meddygol.

Mae llawer o gwmnïau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi dod i’r amlwg yn yr wythnosau diwethaf, sy’n cadarnhau bod hwn yn sector twf sylweddol.  Gyda mwy o ffocws yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang, rydym yn rhagweld galw mawr am sgiliau ledled yr ystod lawn o anghenion sefydliadol.

Efallai bod eich busnes yn elwa o’r newidiadau rydych eisoes wedi’u gwneud mewn ymateb i ofynion yr haint Covid-19 neu efallai’i fod yn fusnes sy’n bwriadu ailsefydlu’i “normalrwydd newydd” – y naill ffordd neu’r llall, rydym yma i’ch cynorthwyo i ganfod y doniau gorau o fysg graddedigion.

A oes arnoch angen adnoddau ychwanegol i gynorthwyo i ymchwilio, i gynhyrchu samplau profion ac i sicrhau bod ysbytai a chanolfannau profi wedi’u cyfarparu’n dda?  Neu efallai bod arnoch angen adnoddau ychwanegol i helpu â gweinyddu, rheoli prosiect, marchnata neu gyllid … fe allwn ni eich helpu.

Beth yw’r Cynllun Graddedigion?

Nod Cynllun Graddedigion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yw cynyddu cynhyrchiant, arloesedd a thwf economaidd drwy gysylltu graddedigion dawnus â busnesau uchelgeisiol yn y deg awdurdod lleol o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’r Cynllun Graddedigion yn cynnig y gwasanaethau AM DDIM canlynol i fusnesau:

  • Gallwn baru’ch rôl yn uniongyrchol â doniau graddedigion tra medrus yn y rhanbarth.
  • Gallwn weithredu trosiant cyflym i ymateb i’ch anghenion (rhwng 2-4 wythnos).
  • Gallwn gynnal yr holl broses recriwtio o bell: hysbysebu, trefnu rhestr fer, asesu a chyfweld*.
  • Gofynnir i ymgeiswyr ddarparu CV fel rhan o broses sydd wedi’i symleiddio.
  • Rydym wedi gweithio â busnesau ledled y rhanbarth i ddarparu rolau mewn peirianneg, labordai, marchnata, Adnoddau Dynol, cyllid, Technoleg Gwybodaeth a datblygu busnes.  Cyflog cyfartalog o £18k – £25k.
  • Cymhwyster a ariannir yn llawn ar gyfer graddedigion i gynorthwyo ac i gydategu’u datblygiad o sgiliau proffesiynol yn y gweithle.

*cyfweliad i’w gynnal gan y cyflogwr.

4
o brifysgolion lleol mewn partneriaeth: Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Y Brifysgol Agored a Phrifysgol De Cymru.
20
o geisiadau am bob rôl ar gyfartaledd wedi’u derbyn.
87.5%
o Gyflogwyr wedi cynnig neu’n bwriadu cynnig rhagor o gyflogaeth i’w person Graddedig.
100%
o Gyflogwyr fyddai’n argymell Cynllun Graddedigion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i sefydliadau neu fusnesau eraill.

Pam ein defnyddio ni i lenwi’ch rolau ar gyfer graddedigion?

Hyblygrwydd er mwyn bod yn addas i chi

Mae ein hymagwedd tuag at y broses recriwtio yn hyblyg, yn addasadwy ac mae wedi’i llunio’n hollol bwrpasol ar gyfer anghenion eich busnes. Rydym yn darparu cyngor arbenigol ac yn ystyried pa bryd yr hoffech recriwtio, pa fath o berson graddedig rydych yn chwilio amdano/amdani, hyd y rôl, sut yr hoffech lunio’r broses asesu a’ch rhan chithau ynddi.

Addasrwydd diwylliannol

Rydym yn gweithio’n galed i ddeall diwylliant eich busnes a’ch dynameg o ran gweithredu fel ein bod yn gallu sicrhau ein bod yn cynnig ymgeiswyr fydd yn addas yn ddiwylliannol. Mae gan bersonoliaeth a meddylfryd werth sy’n gydradd â sgiliau ac arbenigedd technegol. Gallwn ganfod yr ymgeisydd cywir ichi gyda’r rhinweddau a’r gwerthoedd addas rydych chi’n chwilio amdanynt.

Codi proffil ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd

Rydym yn cynnig cyfleoedd marchnata a chysylltiadau cyhoeddus (tystebau, astudiaethau achos ar y wefan, erthyglau nodwedd ynglŷn â diwydiant ac erthyglau nodwedd graddedigion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd) i godi proffil eich busnes ac ymwybyddiaeth ohono o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

Partneriaeth â phartneriaid sy’n awdurdodau lleol a chymorth i fusnesau

Caiff ein cynllun gefnogaeth lawn ein timau Datblygu Economaidd a Rhanbarthol o fewn y 10 awdurdod lleol a sefydliadau allweddol sy’n rhoi cymorth i fusnesau (Busnes Cymru, Siambr Fasnach De Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach, Partneriaeth Sgiliau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd), sy’n golygu y gallwn fanteisio hyd yr eithaf ar y cymorth rydym yn ei ddarparu i chi a sicrhau sylw ychwanegol i’ch cyfleoedd.

Partneriaeth ag addysg uwch

Rydym wedi partneru’n swyddogol â’r pedair prifysgol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd (Prifysgol De Cymru / Prifysgol Metropolitan Caerdydd / Prifysgol Caerdydd / Y Brifysgol Agored yng Nghymru) sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo’r cynllun ac sy’n rhoi mynediad dihafal inni at eu graddedigion o ansawdd uchel.

Byddwch yn derbyn mentora busnes arbenigol

Nid dim ond ar gyfer graddedigion y mae datblygiad personol a phroffesiynol. Rydym yn gweithio â Global Welsh i baru busnesau sy’n tyfu ac sydd â dyheadau â mentoriaid profiadol ledled y byd sydd eisiau darparu’u harbenigedd a’u cynghorion i helpu busnesau i dyfu/lwyddo. Byddwn yn rhoi’r cyfleuster “MyMentor” hwn ar gael AM DDIM am 12 mis i bob busnes sy’n penodi person graddedig.

Gyda phwy rydym yn gweithio

Rydym yn gweithio ag amrywiaeth o fusnesau a sectorau ledled y rhanbarth, yn gyfan gwbl o ficro fusnesau bach a chanolig i gwmnïau rhyngwladol mawrion.

Tystebau

Cofrestrwch eich diddordeb

Cysylltwch, os gwelwch yn dda, â laura.carter@cardiff.gov.uk / geraldine.osullivan@cardiff.gov.uk neu cwblhewch y ffurflen isod: