Mae’r cynllun yn cynnig y buddion canlynol i raddedigion:
- Mynediad at gyflogaeth lefel gradd â thâl (cyflogau £18,000 – £25,000 ar gyfartaledd)
- Ennill cymhwyster proffesiynol wedi ei gyllido’n llawn
- Cyfleoedd i raddedigion o bob cefndir gradd
- Cyfleoedd mewn ystod eang o sectorau a busnesau o wahanol faint
- Cyfleoedd rhwydweithio gyda chyd-raddedigion
- Aelodaeth am ddim o GlobalWelsh am 12 mis – cynllun mentora byd-eang a llwyfan cymunedol. Bydd yr arweinydd busnes a’r graddedig dan sylw yn cael y cyfle i gysylltu â mentor a phobl Gymraeg ledled y byd.
- Cymorth uniongyrchol yn ystod yr interniaeth
Bydd ceisiadau’n agored ym mis Ebrill/Mai ar gyfer swyddi sy’n dechrau ym mis Medi 2019.