Sut mae Cynllun Graddedigion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ymateb i argyfwng COVID-19?
Sylwer, gan mai am gyfnod byr iawn y mae modd ymgeisio am y rôl hon, anogir ymgeiswyr i atodi eu CV isod a fydd wedyn yn cael ei anfon at y cyflogwr i’w ystyried.
Mewn ymateb i COVID-19 a’r anghenion a’r adnoddau brys y gallai fod eu hangen ar fusnesau i ymdopi, rydym wedi symleiddio’r gwasanaeth recriwtio rydyn ni’n ei ddarparu i fusnesau. Rydym yn gallu cwblhau ein proses recriwtio mewn cyfnod byrrach a chynnal y broses recriwtio gyfan o bell.
Cysylltwch â Geraldine.osullivan@caerdydd.gov.uk neu laura.carter@caerdydd.gov.uk yn uniongyrchol i gael rhagor o wybodaeth am sut gallwn ni helpu.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae Prifddinas-ranbarth Caerdydd yn ymateb i argyfwng COVID19 a’r cymorth busnes sydd ar gael yn y rhanbarth, ewch i: https://www.cardiffcapitalregion.wales/covid-19/
Pa feysydd o'm busnes y gallai graddedigion eu cefnogi?
Gallai graddedigion weithio mewn ystod eang o feysydd, o adnoddau dynol i farchnata a rheoli prosiectau. Os teimlwch fod gennych rôl a allai fod yn addas ar gyfer graddedigion, cysylltwch â ni i gael gwybod sut y gallwn helpu.
Cymerwch olwg ar y swyddi diweddaraf sy’n cael eu hysbysebu a’r astudiaethau achos presennol.
Sut mae’r broses yn gweithio?
Rydym yn gweithio gyda chi i nodi a yw interniaeth graddedig yn rhywbeth a fyddai’n gweddu i anghenion eich busnes. Os felly, byddwn yn eich helpu i ddatblygu disgrifiad swydd ar gyfer y swydd. Byddwn wedyn yn hyrwyddo’r swydd ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mewn partneriaeth â’r pedair prifysgol, yn rhidyllu’r ceisiadau ar eich cyfer ac yn rhedeg canolfan asesu i ymgeiswyr sydd wedi pasio’r cam cyntaf. Yn olaf, byddwn yn darparu rhestr fer o ymgeiswyr sydd wedi pasio’r ganolfan asesu i gyfweliad. Gallwn deilwra’r broses yn seiliedig ar faint o fewnbwn yr hoffech ei roi a’ch cefnogi chi a’r person graddedig yn ystod y lleoliad.
Ydych chi'n codi ffi am eich gwasanaethau?
Nac ydym, mae ein gwasanaethau i gyd am ddim. Yr unig gost i’ch busnes yw cyflogau ac yswiriant gwladol y graddedigion – dylech ddisgwyl na fydd yn llai na £7,500 ar gyfer contract chwe mis.
Pa mor hir fyddai'r swydd raddedig yn para?
Cyhyd ag y bydd eich busnes ei angen. Er ein bod yn argymell isafswm o 6 mis.
Pa fath o sefydliadau sy’n gymwys?
I fod yn gymwys, rhaid i fusnesau:
- Fod wedi’i leoli yn rhanbarth prifddinas Caerdydd (y deg ardal awdurdod lleol yn ne-ddwyrain Cymru – Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Tor-faen, Bro Morgannwg)
- Byddwch yn gyflogwr sy’n recriwtio person graddedig am y tro cyntaf neu sy’n recriwtio person graddedig mewn maes newydd o’ch busnes.
- Byddwch yn gyflogwr o’r sector preifat, cyhoeddus neu ddi-elw. Mae’r cynllun ar agor i fusnesau o bob sector a diwydiant – yn amrywio o sefydliadau cenedlaethol mawr i ficrofusnesau sy’n tyfu.
Pwy sy’n cyflogi’r person graddedig?
Cyfrifoldeb y cyflogwr yw talu’r person graddedig drwy gydol ei gyflogaeth.
Sut ydw i’n talu’r person graddedig?
Byddai’r person graddedig yn cael ei ychwanegu at eich cyflogres, fel cyflogai, ac yn cael ei dalu’n uniongyrchol drwy system dalu staff y cwmni. Gallwn roi cymorth a chyngor ar hyn.
Pwy sy'n ymwneud â'r cynllun graddedigion P-RC?
Cafodd y cynllun i raddedigion P-RC ei greu gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mewn partneriaeth â’r pedair prifysgol yn y rhanbarth a sefydliadau amrywiol sy’n cynrychioli busnesau.
Sut allaf ddod o hyd i fwy o wybodaeth?
Cysylltwch â ni a gallwn drefnu sgwrs dros y ffôn neu gyfarfod.
Beth yw GlobalWelsh?
Mae GlobalWelsh yn sefydliad dielw sy’n canolbwyntio ar gysylltu Cymru â’r Cymry ar Wasgar ledled y byd er mwyn galluogi Cymru a phobl Cymru i ragori a ffynnu. Drwy adeiladu cymuned fyd-eang ar GlobalWelsh Connect, y nod yw hwyluso’r gwaith o greu cysylltiadau newydd, mewnwelediadau newydd, a chyfleoedd newydd i’w haelodau mewn dros 40 o wledydd. Mae mentrau a rhaglenni GlobalWelsh yn canolbwyntio ar gael effaith economaidd gadarnhaol ar Gymru a’i aelodau ledled y byd drwy hwyluso cyfleoedd buddsoddi, masnach, rhwydweithio, mentora a dysgu.
Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a GlobalWelsh wedi ymuno i ffurfio partneriaeth newydd i hyrwyddo’r rhanbarth ar lefel fyd-eang a hwyluso ffyniant economaidd a lles cymdeithasol i Gymru.
Gan ddefnyddio rhaglen Mentora Byd-eang MyMentor GlobalWelsh, bydd y bartneriaeth yn cynnig gwasanaethau mentora busnes am ddim i bob cwmni sydd ar hyn o bryd yn cymryd rhan yng Nghynllun Graddedigion P-RC.
Dan y trefniadau unigryw hyn, bydd yr arweinydd busnes a’r graddedig dan sylw yn cael y cyfle i gysylltu â mentor Cymry ar Wasgar am gyfnod o 12 mis.
Drwy gysylltu’r budd â recriwtio graddedigion, mae’r P-RC yn ceisio rhoi cymorth ychwanegol i’r busnesau hynny sy’n ceisio ymgymryd â sgiliau newydd i’w helpu i addasu i’r realiti economaidd newydd.